Lorraine ydw i, rwy’n therapydd cyfunol, sy’n golygu fy mod wedi cael fy hyfforddi i ddefnyddio gwahanol theorïau a dulliau cwnsela. Mae hyn yn fy ngalluogi i ddarparu cymorth wedi’i deilwra i gleientiaid gan ddeall bod pobl yn gymhleth ac yn unigryw, ac na fydd yr hyn sy’n gweithio i un yn gweithio i bawb. Mae fy ymarfer yn seiliedig ar ddull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, ac mae hynny’n golygu fy mod yn rhoi pwyslais mawr ar feithrin perthnasoedd cryf a thriw gyda chleientiaid drwy roi iddynt awyrgylch cynnes ac anfeirniadol lle mae cleientiaid yn teimlo eu bod yn gallu dweud yr hyn y maent angen ei ddweud, a bod yn nhw eu hunain. Mae fy therapi wastad yn cael ei arwain gan ddymuniadau ac anghenion y cleient. Yr allwedd i’r berthynas i mi yw cydweithio, mae cydraddoldeb yn allweddol mewn unrhyw berthynas a bydd y therapydd a’r cleient yn dod â gwybodaeth a safbwyntiau gwahanol i’r sesiynau a fydd, drwy gydweithrediad, yn helpu’r cleient i gyrraedd ei nodau mewn bywyd. 

Bûm yn gweithio am flynyddoedd lawer fel gweithiwr cymdeithasol cyn dod yn gwnselydd, ac mae hynny wedi rhoi imi gyfoeth o brofiad o weithio gyda phobl o bob cefndir gan eu cefnogi drwy adegau anoddaf eu bywyd.  Mae gennyf brofiad uniongyrchol o ddelio â salwch cronig, ac rwy’n meddu ar hyfforddiant a dealltwriaeth o wahanol ffyrdd o ddelio â chyflyrau fel ffibromyalgia ac ME.  

Rwyf wedi dod i weld bod llawer o’r gofid a’r pryder a wynebwn mewn bywyd yn gallu deillio o ddefnyddio strategaethau a pheirianweithiau ymdopi sydd wedi bod o fudd i ni yn y gorffennol ond nad ydyn nhw bellach yn ein helpu.  Gallaf eich helpu i archwilio eich stori a’ch patrymau yn ogystal â’ch cryfderau.  

Rydw i’n credu mai’r hyn y mae pawb yn dymuno’i gael oddi wrth gwnsela, a bywyd ei hun, yw gallu bod yn fersiwn orau ohonom ein hunain yn ein hamgylchedd a’n hamgylchiadau presennol. Byddwn wrth fy modd yn eich cefnogi ar y daith hon i archwilio sut gall hyn fod yn wir i chi. 

Proffil personol

Mi wnes i gwblhau gradd yn y gyfraith i ddechrau, ond ar ôl graddio yn 2004, daeth yn amlwg bod gennyf fwy o ddiddordeb mewn gwaith mwy ymarferol sy’n canolbwyntio ar bobl ac euthum ymlaen i fwynhau nifer o swyddi gwaith gofal a chymorth cyn cwblhau hyfforddiant ôl-radd i ddod yn Weithiwr Cymdeithasol yn 2010. Bûm yn gweithio am dros 10 mlynedd fel gweithiwr cymdeithasol gyda nifer o wahanol grwpiau cleientiaid gan gynnwys gofalwyr maeth, pobl hŷn, oedolion agored i niwed a chleientiaid ag anableddau corfforol a synhwyraidd. Yn ystod yr amser hwn, mi wnes i gwblhau llawer iawn o hyfforddiant proffesiynol a oedd yn canolbwyntio ar iechyd meddwl a’r ffordd orau o gefnogi pobl ar adegau anodd.   

Er mwyn gallu newid gyrfa, mi wnes i wedyn gwblhau gradd MSc mewn Cwnsela ac mi wnaeth hynny fy arwain at weithio gyda chleientiaid drwy ofal sylfaenol y GIG, Age UK, ac ym maes cymorth yn y gwaith gyda staff y GIG. Rwyf bellach yn gweithio fel cwnselydd mewnol gydag elusen gofalwyr, ac rwyf hefyd yn gweithio mewn practis preifat.   

Rwy’n angerddol dros sicrhau bod cwnsela ar gael i bawb ac rwyf eisiau rhoi i gleientiaid wybodaeth, dewis a rheolaeth dros eu profiad o gwnsela er mwyn iddo fod mor llwyddiannus â phosibl. Roedd fy nhraethawd hir ar gyfer fy ngradd MSc yn canolbwyntio ar y materion hyn ac ar hyn o bryd rwy’n gwneud ymchwil pellach yn y maes hwn er mwyn ysgrifennu erthygl i’w chyhoeddi.   

Rwy’n cynnig cwnsela dros y ffôn, drwy sgwrsio ar y we neu wyneb yn wyneb yn ein swyddfa yng Nghyffordd Llandudno ac rwy’n hapus i drafod eich gofynion o ran pa amser a dyddiau sy’n gweithio i’r ddau ohonom, gan gynnwys apwyntiadau gyda’r nos ac ar ôl gwaith. Rwy’n cynnig galwad gychwynnol am ddim cyn i chi drefnu sesiwn er mwyn inni ddod i adnabod ein gilydd a gweld a ydyn ni’n addas i’n gilydd. Mae’r sesiynau’n para 60 munud ac yn costio £50.

Hyfforddiant   

Dyma ychydig o’r hyfforddiant rydw i wedi’i gael:  

  • MSc Cwnsela (Rhagoriaeth) Prifysgol Bangor 
  • PgDip Gwaith Cymdeithasol Prifysgol Caer
  • Atal hunanladdiad ASIST
  • Cymorth cyntaf iechyd meddwl  
  • Dibyniaeth ar gyffuriau ac alcohol  
  • Dibyniaeth ymddygiadol 
  • Galar a cholled 
  • Gweithio gyda gofalwyr  
  • Delio â salwch cronig 
  • Theori ymlyniad ac arddulliau ymlyniad oedolion 
  • Therapi Ymddygiad Dialectegol 
  • Therapi Derbyn ac Ymrwymo   
  • Cwnsela sy’n ystyriol o drawma (Gwasanaeth Trawma Seicolegol) (Canolfan Menywod Gogledd Cymru)

Manylion cyswllt

Ffôn symudol: 07393 546 877

E-bost: lcmorgancounselling@gmail.com

Anfonwch neges ataf: