Helo, Donna ydw i. Rwy’n gwnselydd sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn gyda 18 mlynedd o brofiad o waith cymdeithasol. Plant a Theuluoedd yw fy nghefndir ac mae gennyf brofiad helaeth o weithio gyda sefyllfaoedd/problemau teuluol cymhleth. Mae gen i lawer o brofiad o’r system ofal/maethu, mabwysiadu a gwasanaethau therapiwtig. Mae gen i brofiad o gamdriniaeth, esgeulustod, camddefnyddio sylweddau, iechyd meddwl, trawma, trais domestig a gorbryder/iselder.

Fel cwnselydd sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, fy ngwaith i ydy cynnig lle diogel ichi archwilio’r hyn y gallwch chi, a hynny wrth eich pwysau. Mae cynnig cwnsela yn bwysig iawn i mi oherwydd fy mod yn credu, er mwyn ichi archwilio eich hun yn fewnol, fod angen ichi deimlo’n ddiogel, teimlo bod rhywun yno i’ch cefnogi ac i wrando arnoch, mewn ffordd anfeirniadol gydol eich siwrnai gwnsela. Fy nod yw rhoi hyn i chi a’ch gwahodd i ddechrau gwneud newidiadau cadarnhaol i wella eich lles i’r dyfodol.

Rwyf wedi fy yswirio’n llawn ac rwy’n aelod o BACP (Cymdeithas Cwnsela a Seicotherapi Prydain) i sicrhau bod safonau a moeseg yn cael eu cynnal. Rwyf wedi cael archwiliad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd i weithio gydag oedolion a phlant.

Rwy’n gwnselydd sesiynol gyda Mind ac rwy’n gwirfoddoli gyda gwasanaeth cwnsela’r GIG.

Ar hyn o bryd rwy’n cynnig cwnsela wyneb yn wyneb, dros y ffôn ac ar-lein.

Manylion cyswllt

Ffôn symudol: 07853 254 747

E-bost: thomas.donna115@gmail.com

Anfonwch neges ataf: