Mae penderfynu wynebu ein problemau’n uniongyrchol yn gofyn am ddewrder, ac rydw i yma i chi bob cam o’r ffordd. Rwy’n credu bod newid yn dechrau drwy dderbyn ein hunain am bwy ydym, ni waeth beth. Mae deall y pethau sydd wedi digwydd yn ein gorffennol, a pham rydyn ni’n meddwl neu’n ymddwyn fel rydyn ni, yn caniatáu inni deimlo hunan-drugaredd, ac yn rhoi inni gynllun ar gyfer bod yn fersiwn well ohonom ni ein hunain.  Rwyf wedi cael fy hyfforddi mewn amrywiaeth o ddulliau a thechnegau therapiwtig a all helpu i’ch arwain yn y broses hon. Byddaf yn rhoi ichi le cynnes, croesawgar a diogel i archwilio beth bynnag sy’n eich poeni, heb gywilydd na beirniadaeth. Nid ateb cyflym mo therapi, ac fe all gwella fod yn boenus, ond drwy hyn oll byddwch yn meithrin y sgiliau, yr hyder a’r cryfder personol i oresgyn beth bynnag a wynebwch mewn bywyd – gan gynnwys y sefyllfa rydych chi ynddi y funud hon.

Fy Null i

Mae gen i Radd Meistr mewn Cwnsela o Brifysgol Bangor, lle bûm yn astudio dulliau therapi sy’n Canolbwyntio ar yr Unigolyn, dulliau Seicodynamig, Gwybyddol ac Ymddygiadol. Mae fy ymarfer, yn ei hanfod, yn gyfunol ac yn Canolbwyntio ar yr Unigolyn, ac rwy’n dysgu’n broffesiynol yn barhaus i sicrhau fy mod yn cyflwyno seicotherapi a chwnsela seiliedig ar dystiolaeth ar eu gorau. Yn y gorffennol, rwyf wedi gweithio gyda Chanolfan Menywod Gogledd Cymru a Cruse Bereavement Support, ac ar hyn o bryd rwy’n gweithio’n rhan amser i Wasanaeth Cwnsela Iechyd Meddwl Gofal Sylfaenol y GIG yng Ngogledd Cymru. Rwy’n aelod cofrestredig o Gymdeithas Cwnsela a Seicotherapi Prydain ac yn glynu wrth eu canllawiau proffesiynol.

Materion rwy’n gweithio gyda nhw

● Dibyniaeth
● Gorbryder
● Profedigaeth a cholled
● Genedigaeth, beichiogrwydd ac iselder ôl-enedigol
● Hyder a hunan-barch
● Iselder
● Trais a cham-drin domestig
● Dynameg teulu
● Ffrwythlondeb
● Rhywedd a rhywioldeb
● Niwroamrywiaeth
● Ffobiâu
● Cyflyrau iechyd corfforol
● PTSD a thrawma
● Perthnasau ac ymlyniad
● Hunan-niweidio a hunanladdiad
● Cyn-filwyr y lluoedd arfog
● Cam-drin rhywiol yn ystod plentyndod
● Ysbrydolrwydd
● Delio â straen

Hyfforddiant a chymwysterau

● Therapi Derbyn ac Ymrwymo (GIG)
● Hyfforddiant Sgiliau Ymyriadau Hunanladdiad Cymhwysol (Papyrus)
● Sefydliad Cymorth Profedigaeth (Cruse Bereavement Support)
● Cam-drin Rhywiol yn ystod Plentyndod (Canolfan Menywod Gogledd Cymru)
● Lleihau Straen drwy Feddylgarwch (GIG)
● Defnyddio Llai o Sylweddau (Adferiad Recovery)
● MSc Cwnsela (Prifysgol Bangor, Rhagoriaeth)
● Cwnsela sy’n Ystyriol o Drawma (Canolfan Menywod Gogledd Cymru)

Pryd rwyf ar gael

Rwyf ar gael 9am – 7pm dydd Llun – dydd Mercher am therapi dros y ffôn neu drwy alwad fideo. O fis Medi ymlaen, byddaf hefyd ar gael rhwng 9am a 3pm ar ddydd Mawrth i gynnig sesiynau wyneb yn wyneb yn ein hystafell therapi breifat a chlud yn Nhywyn.

Rwy’n cynnig galwad 15 munud am ddim er mwyn inni allu dod i adnabod ychydig ar ein gilydd, i ateb unrhyw gwestiynau, ac mi gewch chi benderfynu ai fi yw’r therapydd iawn i chi. Mae sesiynau o bell yn costio £45, mae sesiynau wyneb yn wyneb yn costio £50, ac mae gennyf rai slotiau ar gael am bris is.

Manylion cyswllt

Ffôn symudol: 07435 249 954

E-bost: sadie.maund@hotmail.com

Anfonwch neges ataf: