Pwy ydyn ni?
Mae Conscious Counselling yn sefydliad nid-er-elw sy’n cynnig cwnsela a seicotherapi yng Nghonwy a Gwynedd. Mae ein holl therapyddion yn gymwys, yn brofiadol, ac wedi’u cofrestru gyda’r BACP, felly gallwch fod yn sicr eich bod mewn dwylo diogel.
Weithiau, mae heriau bywyd yn rhy fawr i’w llywio ar ein pennau ein hunain, ac mae angen ychydig o help arnon ni i ddod o hyd i’n ffordd. P’un a ydych chi’n cael trafferth gyda galar, trawma, iselder, gorbryder, salwch cronig, cam-drin, dibyniaeth, perthnasoedd, neu unrhyw broblem arall, rydyn ni yma i’ch cefnogi.


Ein gwasanaethau
Rydyn ni’n cynnig opsiynau therapi preifat a rhai wedi’u hariannu dros y ffôn, galwad fideo, ac yn y cnawd yn ein swyddfeydd yng Nghyffordd Llandudno a Thywyn. Mae gennym rai apwyntiadau gyda’r nos a thros y penwythnos, yn ogystal â lleoliadau wyneb yn wyneb eraill yng Nghonwy a Gwynedd, ar gael ar gais.
Perthynas dda rhwng y cwnselydd a’r cleient yw’r allwedd i therapi llwyddiannus. Rydyn ni’n cynnig ymgynghoriad am ddim dros y ffôn i ddechrau, fel y gallwn ddod i adnabod ein gilydd, a gallwch chi wedyn benderfynu a ydyn ni’n addas ar eich cyfer. Cymerwch olwg ar broffiliau ein therapyddion isod i gael gwybod mwy amdanyn nhw.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, neu os ydych chi eisiau mwy o wybodaeth am ein gwasanaethau, anfonwch e-bost aton ni ar support@consciouscounselling.wales, neu cliciwch ar Cysylltwch â Ni.
Cwnsela i Bawb
Credwn fod pawb yn haeddu’r cymorth iechyd meddwl gorau, waeth beth fo’u sefyllfa ariannol. Rydyn ni’n ymwybodol bod tlodi yn cael effaith negyddol enfawr ar iechyd meddwl; gall problemau fel dibyniaeth, trawma a cham-drin gael eu trosglwyddo o un genhedlaeth i’r llall, gan ddinistrio bywydau a chymunedau. Ein nod yw helpu i dorri’r cylch drwy gynnig sesiynau cwnsela am ddim i bobl sydd wir eu hangen.
Mae Cwnsela i Bawb ar gael trwy atgyfeiriadau i drigolion incwm isel yng Nghonwy a Gwynedd. Os ydych chi’n gweithio ym maes iechyd meddwl ac mae gennych chi gleientiaid sy’n cael trafferthion ariannol, cysylltwch â ni ar support@consciouscounselling.wales i wneud atgyfeiriad.
Mae’r prosiect hwn yn bosibl diolch i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.
